Mae adolygiad annibynnol o wasanaethau dwyieithog y Cynulliad wedi dechrau. Mae’n dilyn dadl dros fwriad rheolwyr y Cynulliad i beidio â chyhoeddi’r prif gofnod o’r trafodaethau yn llawn yn y ddwy iaith.
Fe fydd yr adolygiad yn ystyried safon y gwasanaethau ar hyn o bryd, ac yn cynnig argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad a fydd yn cynnal adolygiad ffurfiol o Gynllun Iaith Gymraeg y Cynulliad yn 2010.
Yn ôl y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, bydd cynnal yr adolygiadau yn cryfhau enw da’r Cynulliad fel sefydliad sy’n esiampl i eraill wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
Yn ôl y Cynulliad, bydd yr aelodau yn:
• Ystyried sut y mae gwasanaethau dwyieithog yn cael eu darparu ar hyn o bryd.
• Ystyried barn “prif gwsmeriaid” y Cynulliad am y gwasanaethau dwyieithog.
• Ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian, gan “fanteisio ar yr arferion rhyngwladol gorau”.
• Gwneud argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad ar gyfer dwyieithrwydd yn y dyfodol.
‘Angen cydbwysedd’
Aelodau’r panel yw Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru; y wraig fusnes Susan Balsom; y cyfarwyddwr cwmni, Geraint Evans, a’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor.
“Rhaid i ddwyieithrwydd fod yn ganolog ym mywyd Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai’r Cadeirydd, Arwel Ellis Owen.
Ond mae’n rhaid “cydbwyso” hynny yn erbyn yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni gyda chyllideb y Cynulliad meddai.
“Fel panel, byddwn yn clywed tystiolaeth ac yn argymell y ffordd orau ymlaen ar gyfer gwasanaethau dwyieithog y Pedwerydd Cynulliad yn 2011.”
Helynt y Comisiwn
Daw’r ymchwiliad wedi dadl ynglŷn â chyfieithu areithiau Saesneg i’r Gymraeg yn y Cynulliad yn gynharach eleni.
Roedd Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu arbed £250,000 drwy roi’r gorau i gyfieithu areithiau Saesneg yn y Cofnod – yr Hansard Cymreig.
Wedi gwrthwynebiad cryf, fe fu’n rhaid i’r Comisiwn ildio a phenderfynwyd y byddai’r areithiau yn cael eu cyfieithu, ond o fewn tri neu bum niwrnod gwaith yn hytrach na thros nos.