Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Riccy Scimeca wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl droed oherwydd anaf.
Daeth ei gyhoeddiad llai na phythefnos ers iddo chwarae ei gêm ddiwethaf dros yr Adar Glas.
Roedd Scimeca, 34 oed, wedi dychwelyd i chwarae yn erbyn Preston a West Brom ar ddechrau’r mis ar ôl 15 mis ar yr ystlys oherwydd anaf i’w werddyr.
Ond fe wnaeth yr anaf dychwelyd yn y fuddugoliaeth yn erbyn West Brom yn yr Hawthorns. Cafodd lawdriniaeth ar yr anaf dydd Mercher.
“Beth bynnag yw’r temtasiwn i barhau ac ymdrechu tro ar ôl tro, allwch chi ddim anwybyddu beth mae’r corff yn ei ddweud wrthoch chi,” meddai Scimeca.
“Rwy’ wedi cael gyrfa dda – mae wedi bod yn wych. Mae’n well gen i fod yn ddiolchgar am hynny yn hytrach nag edifarhau.
“Roedd wynebu’r bois a dweud fy mod yn gorffen chwarae yn un o’r pethau mwyaf anodd rwyf wedi gwneud.
“Yn amlwg rwy’n drist ond mae’n wych cael gorffen ar nodyn uchel gyda buddugoliaethau yn erbyn Preston a West Brom.”
Gyfra
Cychwynnodd Riccy Scimeca ei yrfa gydag Aston Villa yn 1993 a threuliodd chwe blynedd cyn symud i Nottingham Forest am £3m.
Bu’n chwarae i Forest am bedair blynedd cyn trosglwyddiad i Gaerlŷr yn 2003. Blwyddyn yn unig roedd Scimeca yng Nghaerlŷr cyn i West Brom ei arwyddo.
Chwaraeodd i West Brom yn yr Uwch Gynghrair cyn treulio cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd yn 2006.
Arwyddodd rheolwr Caerdydd, Dave Jones Scimeca yn barhaol yr un flwyddyn.
“Rydym ni’n dweud ffarwel wrth chwaraewr proffesiynol gwych ac un o’r dynion neisiaf ym mhêl droed,” meddai Dave Jones.
“Mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn, a rydym ni’n dymuno’n dda i Riccy, ei wraig Laura, a’u teulu am y dyfodol.”