Mae modrwy briodas a oedd wedi bod ar goll ers 68 o flynyddoedd yn ôl yn nwylo’r perchnogion heddiw.

Fe wnaeth Herbert Teesdale golli’r fodrwy yn 1941 wrth gynaeafu ei gaeau ŷd.

Cafodd y fodrwy ei darganfod yn union yr un man gan heliwr trysor a oedd yn defnyddio datgelydd metel, ddydd Mercher diwethaf.

Roedd Kevin Woodroffe yn chwilio am drysor yng nghaeau’r fferm yn Hwlffordd pan ddaeth o hyd i’r fodrwy a’i dychwelyd i or-ŵyr Herbert Teesdale, John Richards, sy’n 55 oed.

Mae John Richards yn bwriadu rhoi’r fodrwy 22 carat i’w ferch Christine, 25 oed, fel anrheg priodas y flwyddyn nesaf.

“Fe dreuliodd fy hen daid ddyddiau’n chwilio am y fodrwy ond methodd yn lan a dod o hyn iddi,” meddai.

“Pan ddaeth y heliwr trysor, fe ddywedais i fod modrwy aur yn y cae yn rhywle. Doeddwn i ddim yn credu’r peth pan gafodd y fodrwy ei darganfod.”

“Rhyddhad”

“Roedd y fodrwy wedi bod yn eiddo’r teulu ers blynyddoedd. Rydw i wedi fy nghyffroi ac yn teimlo rhyddhad bod y fodrwy’n ôl yn y teulu,” meddai John Richards.

Fe gafodd y fodrwy ei defnyddio diwethaf Ebrill 1902 ym mhriodas Alice Jane Bartlett yn Eglwys St. Michael ym Mhenfro.

“Mae’r fodrwy yn edrych fel newydd,” meddai John Richards.