Cafodd dyn ei garcharu heddiw am gam drin a lladd cath, cyn rhoi ei chorff yn yr oergell.
Roedd Joel Joshua White, 20, wedi taflu Pepsi, cath fach ddeg wythnos oed, yn erbyn llen, cyn ei rhoi ar ben cysgod lamp oedd yng nghrog ar y nenfwd, a gwylio wrth iddi gwympo i’r llawr. Yna crogodd hi a’i rhoi yn yr oergell (dde).
Roedd wedi bod yn byw â pherchennog Pepsi, Joanne Bettridge, 42. Dywedodd hi wrth Lys Ynadon Caerdydd fis diwethaf, sut yr oedd y gath wedi cael ei cham drin a’i lladd.
Roedd Joel Joshua White, sy’n dod o Longfellow Gardens, Caerffili yn gwadu dau gyfri o achosi dioddefaint dianghenraid i gath ar 6 Tachwedd 2008.
Honnodd fod Joanne Bettridge wedi ei gyhuddo o ladd yr anifail gan ei fod wedi mynd a’i harian ac wedi torri ei chalon ar ôl iddi weld lluniau ohono efo’i bartner.
Ond heddiw, cafodd ddedfryd o 16 wythnos mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Dywedodd y Barnwr Mark Layton ei fod wedi ystyried oedran a thrafferthion personol ac emosiynol Joel Joshua White, ond fod yr achos mor ddifrifol, roedd yn rhaid ei gadw yn y ddalfa.
Roedd yr amddiffyn wedi dweud wrth y llys heddiw fod gan Joel Joshua White hanes o drafferthion iechyd meddwl gan gynnwys niweidio ei hunan.