Mae arolwg yn dangos fod pedwar allan o bob deg teulu’n bwriadu gwario llai ar y Nadolig eleni oherwydd pryderon ariannol.
Yn ôl yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mae 40% o’r 3,000 o rieni a holwyd yn bwriadu gwario llai eleni nag yn 2008.
Dim ond 15% a ddywedodd eu bod yn bwriadu gwario mwy.
Canlyniadau’r arolwg
• Dangosodd yr arolwg fod 16% o rieni wedi dioddef trafferthion ariannol dros y 12 mis diwethaf, a bod 3% wedi gorfod trafod gyda’r benthycwyr gan fod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu.
• Yr hyn sy’n poeni mwyaf ar rieni yw dyledion biliau’r gwasanaethau sylfaenol – fel ynni, dŵr a ffôn – yn ogystal â thalu rhent neu forgais, a rhoi bwyd ar y bwrdd i’w teuluoedd.
• Roedden nhw hefyd yn poeni am arbed arian ar gyfer y dyfodol, a gallu talu am anrhegion ar gyfer penblwyddi a’r Nadolig.
• Dywedodd hanner y teuluoedd na fydden nhw’n gallu para am fwy na mis petawn nhw’n colli eu gwaith neu fynd yn rhy sâl i weithio – dywedodd 18% nad oedd ganddyn nhw ddim arian wedi ei gynilo.
• Cyfaddefodd 14% o rieni nad ydyn nhw ddim yn cadw golwg ar eu gwario.
• Ar gyfartaledd, mae rhieni yn bwriadu gwario £442 ar anrhegion ac ar bethau eraill sy’n ymwneud a’r ŵyl eleni.
Gall unrhyw un sydd eisiau cymorth ariannol ymweld â gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk
Llun: Siop Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd