Mae gŵr y weithwraig feithrin sydd wedi ei charcharu am gam-drin plant yn gobeithio y bydd seiciatryddion yn gallu “datgloi ei meddwl gwyrdroëdig”.

Fe gafodd Vanessa George a gwraig arall, Angela Allen, eu carcharu am gyfnod amhenodol ar ôl pledio’n euog i gam-drin plant a rhannu lluniau anweddus o blant.

Yn ôl gŵr Vanessa George, Andrew, roedd ei throseddau wedi “troi ei stumog” a doedd hi ddim wedi rhoi esboniad o gwbl iddo ef na’i dwy ferch, sy’n 13 a 15.

Fe apeliodd arni i roi mwy o wybodaeth i rieni am ba blant oedd wedi’u cam-drin; roedd gwrthod gwneud hynny yn dangos “ei dirmyg a’i difaterwch llwyr at bawb ohonon ni”.

Y troseddau

Roedd Vanessa George, 39, yn gweithio mewn meithrinfa ym Plymouth. Roedd hi wedi pledio’n euog i saith ymosodiad rhywiol a chwe chyhuddiad o ddosbarthu a chreu delweddau anweddus o blant, ond wedi gwadu un ymosodiad rhywiol.

Roedd Angela Allen, 39, o Nottingham wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blant ac un o ddosbarthu llun anweddus.

Roedd y ddwy, ynghyd â Colin Blanchard o Smallbridge, Manceinion, wedi recordio’r cam-drin ar ffonau symudol ac yna eu cyfnewid dros e-bost. Fe barhaodd y digwyddiadau rhwng Medi’r llynedd a mis Mehefin eleni, heb i’r tri gyfarfod ei gilydd.

Mae dedfryd Colin Blanchard, 39, wedi cael ei gohirio am y tro, gan y gallai wynebu cyhuddiadau eraill.

Mae eisoes wedi pledio’n euog i 17 cyhuddiad yn ymwneud â phornograffi plant a dau ymosodiad rhywiol ar blant. Fe blediodd yn euog hefyd i gyhuddiad pellach o feddu ar bornograffi eithafol.

Fe glywodd Llys y Goron Bryste bod y tri wedi ymosod yn rhywiol ar y plant gan ddefnyddio clybiau golff plastig, teganau rhyw a brwshys dannedd.

Dedfrydu

Wrth ddedfrydu’r ddwy wraig ddoe yn Llys y Goron Bryste, dywedodd yr Ustus Royce y byddai Vanessa George yn y carchar am o leiaf saith mlynedd ac Angela Allen am bump cyn y byddai modd ystyried eu rhyddhau.

Dywedodd na fydden nhw’n cael eu rhyddhau os oedden nhw’n dal i gael eu hystyried yn fygythiad ac roedd ganddo neges arbennig i Vanessa George.

“Mae’r rhieni’n gorfod byw gyda’r cof ohonoch chi’n dod allan gyda gwên ar eich wyneb i drosglwyddo’u plentyn yn ôl a chithau efallai wedi bod yn gwneud pethau dychrynllyd i’w plentyn.”

Fe ddywedodd Andrew George, sy’n 41 oed ac yn beiriannydd nwy, ei fod yn ysgaru Vanessa George ac yn symud gyda’r merched at ei bartner newydd.

Llun: Vanessa George (Gwifren PA)