Mae’r esgob newydd ar gyfer lluoedd arfog gwledydd Prydain wedi cael ei feirniadu am ddweud nad yw popeth y mae’r Taliban yn ei wneud yn ddrwg.

Mae’r Parch Stephen Venner yn dweud na ddylai’r Taliban gael eu portreadu fel bwystfilod.

“R’yn ni wedi bod yn rhy syml yn ein hagwedd tuag at y Taliban,” meddai ym mhapur newydd y Telegraph. Ond, yn ystod y bore, mae wedi cyhoeddi datganiad arall yn pwysleisio fod gan filwyr Prydain ei gefnogaeth lawn.

Cysur i’r gelyn

Cafodd yr esgon ei gyhuddo o “roi cysur i’r gelyn” gan Bob Russell, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros dref filwrol Colchester.

“Mae’n un peth i ddangos parch tuag at y gelyn, ond mae yna fyd o wahaniaeth fan hyn.

“Byddai’n well iddo ganolbwyntio ar godi ysbryd ein milwyr ni, yn hytrach na chodi morâl y gelyn.”

Beth ddywedodd Stephen Venner

“Mae yna lawer o bethau y mae’r Taliban yn sefyll drostyn nhw ac yn ei ddweud na allai neb yn y Gorllewin eu cymeradwyo. Ond dyw dweud bod popeth y maen nhw’n ei wneud yn ddrwg ddim yn helpu chwaith.

“Efallai bod modd edmygu’r Taliban am eu hargyhoeddiad yn eu cred ac am eu teyrngarwch tuag at ei gilydd.”

Dywedodd bod angen i bawb yn Afghanistan, gan gynnwys y Taliban, fod yn rhan o’r ateb i broblemau’r wlad.

Mae Stephen Venner bellach wedi cyhoeddi ail ddatganiad yn dweud bod gan filwyr Prydain ei “gefnogaeth lawn” a bod rhyfel y Taliban yn “anfad”.

Cafodd yr esgob ei benodi gan Rowan Williams, Archesgob Caergaint.