Bangor yw’r le saffaf ar dir mawr gwledydd Prydain o ran damweiniau car, yn ôl ffigyrau newydd.

Belffast yng Ngogledd Iwerddon yw’r lle saffaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda Bangor yn ail ac Abertawe’n drydydd.

Roedd canran y bobol oedd yn hawlio yswiriant ar ôl damwain ym Mangor 44.9% o dan y cyfartaledd ac Abertawe 24.6% yn is.

Roedd pob un o’r 10 tref beryclaf yn Lloegr. Slough oedd isaf gyda 41.3% yn fwy o bobol yn hawlio am yswiriant ar ôl damwain car na’r cyfartaledd.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni yswirinat car Endsleigh, a gynhaliodd yr arolwg, ei fod yn synnu “bod pobol yr Alban hefyd ymysg y gyrwyr saffaf”.

“Hynny er bod y tywydd yn gwneud y ffyrdd yn fwy peryg yno yr adeg yma o’r flwyddyn.”