Ar restrau Nadolig llawer o ferched led led y byd, mae’r hen ffefryn, y ddol. Felly, mae Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth yn gobeithio y bydd yna ddiddordeb mawr yn eu harddangosfa arbennig tros gyfnod y gwyliau.

Am y tro cynta’ erioed mae casgliad hardd a phrin o ddoliau pren yn cael eu dangos i’r cyhoedd gyda’u gwaith gwnïo cain, eu dillad ffasiynol a’u hwynebau wedi eu paentio.

Mae Mary Turner Lewis, swyddog gofal y casgliadau, wedi bod yn ymchwilio i hanes y doliau pinwydd yma o’r 19eg ganrif.

“Mae hen ddoliau pren yn eithaf prin ac mae’r esiamplau cynharaf yn dod o’r Almaen a’r Iseldiroedd,” meddai Mary Turner Lewis, swyddog gofal y casgliadau.

“Rydyn ni newydd arddangos set o bedair ar ddeg. Maen nhw’n adlewyrchu ffasiwn y cyfnod ac yn ogystal â’u bod yn gwisgo dillad sy’n cynnwys gwaith gwnïo cain â llaw a phwythau cymhleth a manwl, mae ganddyn nhw hefyd atodion ffasiynol.

“Mae gan bob ffigwr set o ddillad isaf manwl a sanau wedi’u gwneud o sidan, mwslin, lliain a chotwm.

“Mae rhai o’r ffigyrau yn cario blodau sych ac mae gan bob un ohonynt benwisgoedd ffasiynol.”

Hanes y casgliad

Mae’r doliau yn rhan o gasgliad Margaret Evans – gwraig a gasglodd filoedd o eitemau o ddiddordeb lleol – ac mae staff Amgueddfa Ceredigion wedi bod yn gofalu am y casgliad hwn ers nifer o flynyddoedd.

Dydyn nhw ddim yn gwybod o ble daeth y doliau ond mae’n bosib mai plentyn o deulu cyfoethog oedd yn berchen arnyn nhw.

Byddai’r doliau hyn wedi bod yn ddrud yn newydd a dim ond teuluoedd cefnog a allai eu fforddio.

“Mae’n ddiddorol gweld fod un o’r doliau mewn gwisg lleian sydd o galico heb ei gannu a’i bod hi’n gafael mewn llyfr gweddi bach lledr,” meddai Mary Turner Lewis.

Hanes doliau

Disodlwyd doliau pren yr Almaen yn ddiweddarach gan ddoliau llawer mwy drud a chain a wnaed yn Ffrainc o borslen a chwyr.

Byddai gan blant cefnog ddoliau cain gydag wynebau wedi’u peintio ac, efallai, wallt go iawn; doliau o bren neu frethyn fyddai gan ferched tlotach.

Fe newidiodd cynhyrchu doliau’n sylfaenol pan ddaeth deunyddiau a dulliau cynhyrchu newydd i fod yn y cyfnod Fictoraidd.

“Gyda dyfodiad y peiriant gwnïo a gydag amrywiaeth o ddeunyddiau tramor ar gael, cynhyrchwyd llawer mwy o ddoliau ac roedden nhw’n rhatach i’w prynu,” meddai Mary Turner Lewis.

“Erbyn yr ugeinfed ganrif, nid yr elit cyfoethog yn unig oedd â doliau ac roedd llawer o blant yn berchen ar amryw o ddoliau.”