Mae caneuon newydd Ryan Kift yn dod o le tywyll iawn – rhywbeth fydd yn synnu’r rheiny sydd wedi dilyn hynt a helynt y canwr o Lanrug.
Mae’r canwr-gyfansoddwr yn gyfarwydd i wylwyr Uned 5 a Bandit fel cymeriad llawn hwyl a direidi.
Roedd ei albym ddiwethaf – Amsterdam – yn adrodd ei hanes yn mwynhau arlwy diwydiant rhyw prifddinas yr Iseldiroedd.
Ond casgliad llawer mwy difrifol yw ei gynnig diweddaraf, O’r Ogof. Mae caneuon ei E.P. yn trafod colled.
Y llynedd bu farw mam Ryan Kift, ac yn gynharach eleni fe gollodd ei frawd.
Caneuon ‘trwm’
“Doeddwn i erioed wedi mynd i fan’na yn fy nghaneuon i o’r blaen,” meddai Ryan Kift gan bwyntio at ei galon.
“Pan wnaeth brawd fi farw mis Chwefror, a’r Hen Fod wedi marw flwyddyn cynt, roedd o un ai sgwennu hwn neu gael nervous breakdown.”
Dim ond pedair cân sydd ar O’r Ogof, ac mae hynny’n fwriadol am fod y caneuon yn drwm.
“Fyswn i wedi gallu sgwennu albym, ond nes i dorri fo lawr i bedair cân. Yn gwrando nôl rŵan dw i’n falch nes i adael pedair cân dywyll arall allan.”
Cewch ddarllen weddill y stori yn y Babell Roc yn Golwg, Rhagfyr 10