Mae ofnau y gallai cathod gwyllt fod yn peryglu plant mewn stad dai.

Y gred yw bod hyd at 16 o gathod yn byw yn wyllt bellach ar stad Pensyflog ym Mhorthmadog.

Mae trigolion lleol yn credu fod y cathod yn arfer bod yn anifeiliaid anwes, ond eu bod wedi bridio a mynd yn wyllt dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd un preswylydd wrth bapur newydd y Daily Post bod y cathod yn peryglu plant, a bod ei blentyn yn methu chwarae yn yr ardd o’u herwydd.

Doedd o ddim yn gallu cadw ei ffenestri ar agor chwaith, meddai wrth y papur, gan fod cath wyllt wedi dringo i mewn i’w dŷ un tro.

Mae’r cyngor lleol yn dweud nad oes dim y gallan nhw ei wneud i reoli’r cathod ar hyn o bryd, gan nad ydyn nhw’n gwybod pwy sydd piau nhw.