Mae ofnau y gall eira ac oerfel dros y dyddiau nesaf lesteirio’r gwaith atgyweirio yn Cumbria ar ôl y llifogydd.
Mae disgwyl y bydd y tymheredd ledled Prydain yn disgyn mor isel â -5 gradd C (23 gradd F) dros y ddeuddydd nesaf, cyn i ogledd Lloegr a’r Alban gael eu gorchuddio ag eira.
Daw’r rhybudd ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd gyhoeddi 20 o rybuddion llifogydd wrth i law trwm achosi llifogydd mewn rhannau o dde Lloegr ddoe.
Yn ôl arbenigwyr tywydd, mae’r glaw trwm yn cilio heno, a’r prif fygythiad dros y dyddiau nesaf yw tymheredd isel cyn i ffrynt o dywydd gwlyb gyrraedd dros Fôr Iwerydd.
Ymysg yr ardaloedd a all gael eu taro gan eira mae Cockermouth a oedd o dan ddŵr wythnos yn ôl.
Yn y cyfamser, mae peirianwyr y fyddin wedi dechrau gosod sylfeini pont dros i ailgysylltu dau hanner tref Workington, ac mae’r bont ei hun wrthi’n cael ei llunio yng ngwersyll hyfforddi’r fyddin yn Halton, ger tref Caerhirfryn (Lancaster).
Llun: Milwyr o Sgwadron y Peirianwyr wrthi’n creu’r bont i gerddwyr dros afon Derwent yn Workington