Mae’r Gymanwlad heddiw wedi galw am gytundeb rhyngwladol ac iddo ymrwymiadau cyfreithiol ar newid yn yr hinsawdd yn uwch-gynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen y mis nesaf.
Rhoddwyd cefnogaeth hefyd i alwad y Prif Weinidog Gordon Brown am Gronfa o $10 biliwn i ariannu rhai o’r camau sydd angen eu cymryd yng ngwledydd tlotaf y byd i ddiogelu coedwigoedd glaw, datblygu ffynonellau ynni carbon isel a pharatoi i fynd i’r afael ag effeithiau cynhesu byd-eang.
Byddai’r gronfa’n cael ei rhoi ar waith y flwyddyn nesaf yn barod erbyn i unrhyw gytundeb yn Copenhagen ddod i rym yn 2013.
Daeth y Gymanwlad i gytundeb unfrydol ar y mater mewn cyfarfod o arweinwyr ei gwahanol wledydd sy’n cael ei gynnal yn Trinidad a Tobago y penwythnos yma.
Amrywiaeth
Mae’r Prif Weinidog yn ystyried cytundeb o fewn y Gymanwlad yn hynod arwyddocaol oherwydd yr amrywiaeth sydd ymysg y gynghrair o 53 o wledydd a oedd yn gysylltiedig â’r hen ymerodraeth Brydeinig.
Yn ogystal â gwledydd cyfoethog fel Prydain ac Awstralia, mae’r Gymanwlad yn cynnwys cewri economaidd newydd fel India a De Affrica, gwledydd fel Papua New Guinea sy’n gartref i goedwigoedd glaw, a gwledydd isel fel y Maldives a Bangladesh sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau codiad yn lefel y môr.
Datganiad
Mewn datganiad y cytunwyd arno gan bob un o’r 53 o wledydd, dywedodd y Gymanwlad:
“Credwn fod cytundeb rhyngwladol ac iddo ymrwymiad cyfreithiol yn hanfodol. Mae cynhesu byd eang, yn ogystal â pheryglu diogelwch, ffyniant a datblygiad economaidd a chymdeithasol miliynau o bobl, yn golygu bygythiad i fodolaeth amryw o wledydd y Gymanwlad.
“Rhaid rhoi sylw i anghenion y rhai mwyaf bregus. Rhaid i’w llais gael eu clywed.
“Rhaid gweithredu ar unwaith.”
Llun: Gordon Brown yn cyfarfod â phlant ysgol yn Trinidad heddiw mewn ymweliad i gyd-fynd â chynhadledd y Gymanwlad yn y wlad.