Mae Cymru wedi gorffen cyfres yr hydref wrth golli gyda chanlyniad 12-33 siomedig yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe gollodd Cymru Shane a Leigh Halfpenny oherwydd anafiadau yn gynnar yn yr hanner cyntaf – gan ychwanegu at faint y dasg anodd.

Wedi’r siom o golli yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf, roedd llawer mwy o angerdd yn chwarae’r Wallabies ar ddechrau’r gêm yn erbyn Cymru.

Fe wnaeth Digby Ioane, James Horwill, a’r chwaraewr dawnus, David Pocock, groesi’r llinell gais i Awstralia yn ystod 25 munud cyntaf y gêm.

Bu’n rhaid i Gymru ddibynnu ar giciau cosb gan Halfpenny a Stephen Jones i leihau’r bwlch, gyda’r hanner cyntaf yn dod i ben 12-23 i Awstralia.

Doedd ymosod Cymru ddim yn fygythiol iawn trwy gydol y gêm, ac roedd amddiffyn Awstralia yn gadarn ar yr ychydig adegau pan fu Cymru’n pwyso.

Methodd Cymru ag ychwanegu unrhyw bwyntiau yn yr ail hanner, gyda Tatafu Polota-Nau yn sgorio pedwerydd cais i’r Wallabies.

Gyda 13 pwynt ychwanegol yn dod oddi ar droed seren y gêm, Matt Giteau, fe wnaeth y Wallabies sicrhau buddugoliaeth 12-33 i orffen y daith gan ddathlu.

Mae Cymru’n wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ymhen 10 wythnos, ac fe fydd Warren Gatland yn ymwybodol fod yna waith caled i’w wneud.