Mae Wrecsam allan o gystadleuaeth Cwpan yr FA am ar ôl i Swindon sgorio gôl hwyr ar y Cae Ras.

Roedd Wrecsam yn rheoli am ran helaeth o’r gêm gyda’u cyfle gorau’n cael ei benio oddi ar linell Swindon.

Fe wnaeth Christian Smith dderbyn cerdyn coch am dacl fyrbwyll ar Jonathan Douglas wedi 52 munud o’r gêm.

Ond hyd yn oed gyda Wrecsam lawr i ddeg dyn, roedd y Dreigiau’n dal yn gystadleuol yn haeddu o leia’ gêm gyfartal.

Fe wnaeth golwr Swindon, David Lucas yn dda i arbed ymdrechion Wes Baynes a Marc Williams.

Gyda deng munud o’r gêm yn weddill fe wnaeth cic gornel Jon-Paul McGovern ganfod Gordon Greer i benio’r bêl i gefn y rhwyd.