Mae Cymru yn dechrau gwneud ei march o ddifri’ ym maes bwydydd, meddai enillydd gwobr fwyd bwysica’r wlad,
“Ydan ni wedi dechrau rhoi’r darnau at ei gilydd ac yn cynnig cynhyrchwyr artisan a chynnyrch o ansawdd yn ogystal â chynhwysion crai dam,” meddai Deiniol ap Dafydd o gwmni Blas ar Fwyd yn Llanrwst, enillydd gwobr Pencampwr y Gwir Flas.
Fe enillodd y wobr mewn seremoni yn Y Fenni neithiwr am 21 mlynedd o waith yn hyrwyddo bwydydd Cymreig trwy gyfres o fusnesau. Bellach mae ef a’i wraig yn berchnogion ar delicatessen mwya’ Cymru, bwyty, busnes gwin ac arlwyo.
Sir Benfro oedd enillydd gwobr yr ardal orau – y Cyrchfan Twristiaidd – sy’n golygu mai yno y bydd y seremoni y flwyddyn nesa’. Fe ddaeth ei llwyddiant oherwydd Gŵyl Fwyd Môr sy’n golygu cydweithio rhwng cannoedd o gynhyrchwyr.
Gwesty’r Crown at Whitebrook a enillodd y frwydr rhwng bwytai gorau Cymru ac roedd yna ddwy fedal aur hefyd i gynnyrch newydd sbon – Caws Hafod o ardal Llanbed.
Roedd yna fedal aur hefyd i Hufenfa Llandyrnog ger Dinbych, lle clywyd yn ystod y mis diwetha’ bod hanner y swyddi’n mynd ac roedd yna sawl medal a gwobr y beirniaid i Ganolfan Organig Primrose yn Aberhonddu.
Cyfweliad gyda Deiniol ap Dafydd a chynrychiolwyr Sir Benfro, a’r holl enillwyr – yn adran Busnes
Llun (Hawlfraint y Goron)