Fe fydd Morgannwg yn dechrau tymor 2010 gyda gêm gartref ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sussex ar 9 Ebrill.

Wedyn, fe ddaw dwy gêm oddi cartre’ yn erbyn Middlesex a Swydd Derby ac mae Cyfarwyddwr Criced y sir, Matthew Maynard, yn dweud ei fod yn fodlon gyda’r drefn.

Fe ddaeth y sir yn agos at gael dyrchafiad o’r Ail Adran y llynedd ond roedd eu perfformiad yn y gemau byr yn llawer salach.

Fe fydd cystadleuaeth 40 pelawd newydd yn dechrau’r tymor nesa’ gyda gemau cartref Morgannwg yn cael eu cynnal ar naill ai nos Wener neu brynhawn dydd Sadwrn.

Fe fydd Morgannwg yn dechrau yn honno gyda gêm gartref yn erbyn Gwlad yr Haf ar 25 Ebrill.

‘Cyfle gwych’ i gefnogwyr

Mae’r gemau ugain pelawd yn cael eu chwarae mewn un cyfnod o chwe wythnos yng nghanol y tymor, gan ddechrau ar 4 Mehefin yn erbyn Swydd Caerloyw. Fe fydd pump o’r gemau ugain pelawd yn cael eu darlledu ar S4C.

Fe fydd Morgannwg hefyd yn parhau i chwarae rhai gemau yn Abertawe a Bae Colwyn yn ogystal â Stadiwm SWALEC. Mae Prif Weithredwr Morgannwg yn credu bod trefn y gemau yn dda i gefnogwyr.

“Fe fydd trefn gemau’r haf nesaf yn gyfle gwych i gefnogwyr ddod allan i gefnogi’r tîm oherwydd bod nifer o’r gemau’n cael eu cynnal ar nosweithiau a phenwythnosau,” meddai Alan Hamer.

“R’yn ni’n edrych ymlaen at y tymor newydd ac eisoes wedi ychwanegu chwaraewyr da iawn i’r garfan gan gynnwys Jim Allenby, Nick James a David Brown.”