Mae strategaeth NATO yn Afghanistan yn gwneud ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain yn fwy tebygol, yn ôl AS Torïaidd sy’n gyn-filwr.
Mae Adam Holloway, cyn aelod o’r Grenadier Guards, yn galw am bwyslais newydd ar gymodi gyda gwrthryfelwyr Afghan yn hytrach nag ymladd dwysach.
Mae’n rhybuddio mai’r cyfan fyddai cynyddu nifer y milwyr, fel sy’n cael ei annog gan gadfridogion America, yn ei wneud fyddai gwaethygu’r anawsterau y mae milwyr NATO yn eu hwynebu.
Dywedodd Mr Holloway, aelod o Bwyllgor Dethol y Senedd ar Amddiffyn, fod NATO o fewn y dim i fethu wrth i’r gefnogaeth yn Afghanistan ostwng.
Cyflwyna ei sylwadau mewn papur cynhwysfawr ar Afghanistan sy’n cael ei gyhoeddi gan y Centre for Policy Studies, yr un papur lle datgelwyd pryderon yr Is-gyrnol Rupert Thorneloe am ddiffyg hofrenyddion i luoedd Prydain yn y wlad.
Yn y papur, dywed Mr Holloway y gellid rhwystro Al Qaeda rhag adennill ei droedle yn y wlad heb bresenoldeb degau o filoedd o filwyr estron.
“O siarad yn blaen, mae’n sefyllfa bresennol yn gweithio’n erbyn buddiannau diogelwch y Gorllewin ac mae’n peri y bydd ymosodiadau ar strydoedd Prydain yn fwy tebygol yn hytrach na llai tebygol,” meddai.
Dywedodd fod y rhyfel yn Afghanistan yn chwarae i ddwylo propaganda Al Qaeda.
“Iddyn nhw, Afghanistan yw’r lle gorau yn y byd i greu ffilmiau o ymosodiadau’r Mujahadeen ar ‘rymoedd yr inffidel’, sydd yn ei droi’n helpu codi arian a recriwtio,” meddai.
Mae Mr Holloway yn galw am fwy o “yfed te” gydag arweinwyr lleol ac cheisio cymodi â gwrthryfelwyr.
“Fe ddylen ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei gyflawni – mae bob amser rywfaint o wrthryfela am ddigwydd yn Afghanistan, ond mae angen inni ei reoli, nid ei wneud yn waeth.”
Dywedododd nad oedd unrhyw ateb perffaith i’r wlad, ond mai’r ffordd ymlaen oedd cydweithio â’r gymdeithas yn Afghanistan.
“Y peth olaf y mae arnon ni ei angen yw mwy o ‘fyddin fawr’,” meddai