Mae tân sydd wedi bod ynghyn drwy’r nos yn dilyn ffrwydrad mewn pibell nwy yn ardal Merthyr, bellach wedi ei ddiffodd, meddai’r gwasanaeth tân heddiw.

Ni chafodd neb ei anafu gan y ffrwydrad ger gorsaf Pentrebach ger Aberfan neithiwr, ond fe wnaeth pont ddymchwel yn y gwres tanbaid.

Mae disgwyl y bydd tua 30 o drigolion yn dychwelyd i’w tai heno ar ôl cael eu hanfon o’u cartrefi gan yr heddlu ddoe.

Mae’r ffrwydrad wedi gadael 1,600 o dai yn Aberfan heb nwy, ond dywed llefarydd ar ran y cwmni ynni Wales and West Utilities fod peirianwyr wrthi’n ceisio adfer y cyflenwad “cyn gynted ag sy’n bosibl”.

“Byddwn yn cydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y gymuned, yn enwedig pobl fregus, yn cael cyfleusterau gwresogi a choginio eraill.”

Dywedodd hefyd nad oedden nhw’n diystyru “ymyrraeth trydydd parti” fel achos y twll yn y bibell.

Galw ar i’r heddlu ymateb

Mae hyn yn dilyn galwad gan gynghorydd lleol ar i’r heddlu ymateb ar ôl adroddiadau bod plant wedi eu gweld yn taro pibell nwy.

Yn ôl y cynghorydd lleol, Brent Carter, roedd y fflamau ar un adeg yn codi 30 troedfedd i’r awyr.

Ond mae ef hefyd wedi codi cwestiynau am achos y ffrwydrad ar ôl clywed bod plant wedi cael eu gweld yn taro’r bibell ynghynt yn y dydd.

“R’yn ni’n cael problemau i lawr yna trwy’r amser,” meddai. “Efallai y bydd yr heddlu’n cymryd sylw o hynny nawr.”

Llun: Pentref Aberfan, lle mae 1,600 o gartrefi’n dal heb nwy