Bydd Malta yn ymchwilio i dystiolaeth un o’r prif lygad-dystion a wnaeth helpu i gael bomiwr Lockerbie yn euog, datgelwyd heddiw.
Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph mae ar lywodraeth Malta eisiau ymchwilio i honiadau Tony Gauci, perchenog siop wnaeth adnabod Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi fel y dyn oedd yn gyfrifol am osod ffrwydron ar awyren Pan Am 103.
Roedd Tony Gauci yn berchen siop ddillad yn Swieqi, Malta, ar y pryd a honnodd fod Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi wedi prynu dilledyn a gafodd ei ddarganfod yn malurion yr awyren yn mis Rhagfyr 1988.
Roedd ei dystiolaeth yn hanfodol wrth sicrhau dedfryd y cyn swyddog cudd o Libya yn 2001, ond ers hynny mae amheuon wedi codi ynglŷn â pa mor ddibynadwy oedd Tony Gauci.
Yn ôl papur newydd y Telegraph dywedodd swyddog o lywodraeth Malta bod “Tony Gauci yn rhywun yr ydan ni eisiau ymchwilio iddo’n fwy trylwyr ac rydym ni’n paratoi am hynny.”
Fe gafodd Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi ei ryddhau gan Lywodraeth yr Alban ar sail trugaredd yn mis Awst.
Ar y pryd fe wnaeth doctoriaid ddod i’r casgliad fod ganddo dri mis i fyw.
Fe fu 270 o bobol farw yn y ffrwydrad, gan gynnwys 11 o bobol ar y ddaear.