Mae cyn-arlywydd Unol Daleithiau America wedi rhybuddio y byddai’r byd yn “wynebu bygythiadau difrifol” pe tai’r Taliban ac Al Qaida yn cael cymryd rheolaeth o Afghanistan.
Roedd George Bush yn siarad yn ystod ymweliad â phrifddinas India wrth i’r Arlywydd Barack Obama geisio penderfynu os yw am anfon hyd at 40,000 yn fwy o filwyr i’r wlad.
Dyma’r flwyddyn beryclaf hyd yma i luoedd arfog yr Unol Daleithiau yn y wlad ers i’r rhyfel ddechrau yn 2001.
Yn ogystal â hynny mae arlywydd Afghanistan Hamid Karzai ynghanol ffrae dros dwyll yn yr etholiad sydd wedi llychwino hygrededd y llywodraeth.
“Mae’r frwydr yn Afghanistan wedi bod yn un hir, anodd a chostus, ond rydw i’n credu ei bod hi’n angenrheidiol ar gyfer sefydlogrwydd a heddwch,” meddai George Bush yn New Delhi.
“Be bai’r Taliban ac Al Qaida a’u cynghreiriaid eithafol yn cael cymryd rheolaeth o Afghanistan unwaith eto, fyddai yna ddim man diogel i bobol y wlad, yn enwedig y merched, a fyddai’n wynebu dychwelyd i ormes creulon.”