Bydd ysgoloriaeth ar gyfer cyfarwyddwyr ffilmiau yn cael ei sefydlu yn sgil llwyddiant fideo diogelwch gan yr heddlu sydd wedi cael ei wylio ar draws y byd.

Bydd yr elw o’r ffilm Cow, sy’n rhybuddio am beryglon gyrru negeseuon testun wrth yrru, yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu ffilmiau addysgiadol gan bobol ifanc.

Mae’r ffilm pedwar munud, uchod, gan Heddlu Gwent eisoes wedi cael ei wylio gan dros saith miliwn o bobol.

Cafodd ei roi ar y wefan YouTube gan y cyfarwyddwr Peter Watkins-Hughes yn gynharach eleni.

Erchyll

Mae’r fideo yn dangos canlyniadau erchyll gyrru neges destun wrth yrru i ferch 17 oed o’r enw Cassie Cowan yn Nhredegar yn y Cymoedd.

Cafodd y ffilm ei chreu am £10,000 yn unig a’r bwriad gwreiddiol oedd ei dangos mewn ysgolion yng Ngwent yn unig.

Ond ers hynny mae wedi denu sylw cyfryngau’r Unol Daleithiau. Bydd y ffilm lawn yn cael ei ddangos ar BBC2 bnawn dydd Llun.

Dywedodd Heddlu Gwent bod cannoedd o geisiadau wedi bod am gopïau o’r ffilm a’u bod nhw wedi sefydlu Ymddiriedolaeth Ffilm Annibynnol Gwent gyda’r elw.

Bydd yr elw o lwyddiant Cow yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r ymddiriedolaeth er mwyn comisiynu ffilmiau addysgiadol newydd a thalu am ysgoloriaeth cyfarwyddwyr ifanc.

‘Byth eto’

“Rydw i wrth fy modd y bydd pobol Cymru yn cael y cyfle i weld Cow yn ei gyfanrwydd ar bnawn dydd Llun,” meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi.

“Ar ôl gweld y ffilm mai nifer o bobol wedi dweud na fydden nhw byth yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru eto.”