Mae herwgipwyr yn ne’r Philippines wedi rhyddhau fideo’n dangos cenhadwr 79 oed o Iwerddon yn dweud fod y rhai sy’n ei gaethiwo’n mynnu dwy filiwn o ddoleri i’w ryddhau.
Cafwyd gafael ar y fideo gan swyddogion o’r llywodraeth sy’n trafod gyda’r herwgipwyr a chafodd ei ddarlledu ar deledu’r wlad yn gynharach heddiw. Mae’n dangos y Tad Michael Sinnott yn dal copi o rifyn Hydref 22 o bapur newydd – dyddiad a fyddai 11 diwrnod ar ôl iddo gael ei herwgipio.
Mae Michael Sinnott yn apelio mewn llais eiddil ar i Arlywydd y Philippines, llywodraeth Iwerddon, ei gyd-genhadon a’i ffrindiau “i helpu fel y gallaf ddod allan oddi yma cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Cafodd y cenhadwr ei gipio yn ninas Pagadian yn nhalaith Zamboanga del Sur ar Hydref 11, ond nid yw’n eglur pwy sy’n ei ddal.
Mae gwrthryfelwyr Mwslimaidd wedi bod wrthi’n herwgipio o’r blaen yn y rhan gythryblus yn ne’r Philippines – gwlad sy’n bennaf Gatholig – ond mae’r mudiadau yma’n gwadu bod â rhan yn herwgipio Michael Sinnott.
Mae pryder wedi bod ynghylch ei iechyd gan ei fod yn gorfod cymryd meddyginiaethau at ei galon. Er bod meddyginiaethau wedi cael ei hanfon ato trwy’r rhai sy’n trafod â’r herwgipwyr, does dim sicrwydd eu bod wedi cyrraedd y cenhadwr.
Llun: Y Tad Michael Sinnot yn siarad ar y fideo a gafodd ei rhyddhau gan yr herwgipwyr sy’n mynnu $2 filiwn am ei ryddhau (AP Photo)