Mae llofruddion, pedoffiliaid a threiswyr ymysg 750 o droseddwyr sydd ar ffo ar ôl cael eu rhyddhau o dan amodau o’r carchar, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Adran Gyfiawnder heddiw.
Troseddwyr yw’r rhain a gafodd eu gadael allan o’r carchar yn gynnar, ond sydd naill ai wedi troseddu eto, neu wedi torri’r amodau a osodwyd pan gawsant eu rhyddhau.
Yn eu plith mae 16 o lofruddion, naw treisiwr, a chwe pedoffeil, yn ogystal â 70 o fwrgleriaid, 75 lleidr, a 120 o droseddwyr cyffuriau.
Dilyna’r ffigurau yma’r datganiad gan y Llywodraeth yn ystod yr haf fod 954 o droseddwyr a ddylai fod wedi cael eu dychwelyd i’r carchar, ar ffo yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, mae 317 wedi cael eu dal, ond mae dros 100 ychwanegol wedi cael eu hychwanegu i’r rhestr.
Mae llefarydd dros gyfiawnder i’r wrthblaid, Dominic Grieve, wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “beryglu’r cyhoedd”.
Ond mae llefarydd ar ran yr Adran Gyfiawnder wedi dweud fod y system dychwelyd troseddwyr i’r carchar yn gweithio’n dda.
“Er y cynnydd yn y nifer sy’n cael eu galw’n ôl” meddai’r llefarydd, “mae’r nifer o droseddwyr sydd ddim yn dychwelyd i’r ddalfa wedi disgyn 20% o’i gymharu â mis Gorffennaf eleni.
“Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mewn 99% o’r 95,000 o achosion pan mae troseddwr wedi cael eu galw’n ôl, mae’r unigolyn wedi dychwelyd i’r ddalfa.”
Yn ôl llefarydd cyfiawnder y Democratiaid Rhyddfrydol, Paul Holmes, mae safiad y Llywodraeth am gryfder y system ail alw yn cael ei “lwyr danseilio” gan mai “dim ond traean” o’r troseddwyr oedd ar ffo yn ystod yr haf sydd wedi cael eu dal.