Mae’r cwmni teledu Tinopolis wedi cwblhau cytundeb a fydd yn agor y farchnad deledu iddyn nhw yn yr Unol Daleithiau.

Mae Tinopolis wedi prynu Pioneer Productions, un o gwmnïoedd cynhyrchu annibynnol mwyaf Prydain, sy’n cynhyrchu rhaglenni yn y maes gwyddonol yn bennaf.

Ymhlith eu cwsmeriaid mae’r sianeli ffeithiol adnabyddus Americanaidd, ‘National Geographic’ a’r ‘Discovery Channel’, ac mae rhaglenni penodol sydd wedi eu cynhyrchu ganddyn nhw yn cynnwys: ‘Animals in the Womb’; ‘Journey to the edge of the Universe’ a ‘How the Earth was Made.’

Trafod telerau

Mae adroddiadau fod Tinopolis wedi bod o dan bwysau gan eu cefnwyr ariannol, Vitruvian Partners, i ehangu drwy brynu cwmnïau eraill.

Roedd Tinopolis wedi bod yn trafod telerau efo cwmnïau Steadfast Television a Spun Gold TV, ond does dim sôn wedi bod am gytundeb.

Tinopolis yw’r chweched cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf ym Mhrydain. Mae’r brif swyddfa yn Llanelli, ond mae’r rhan fwyaf o’r gweithredwyr yn gweithio yn Hammersmith, Llundain.

O blith eu hasedau, mae cwmni Mentorn Media sy’n cynhyrchu Question Time, a’r arbenigwyr chwaraeon Sunset+Vine, sy’n darlledu rasio ceffylau i’r BBC.

Llun: o wefan Pioneer Productions, sy’n arbenigo mewn rhaglenni gwyddonol