Mae dyn 66 oed wedi ei gyhuddo o 45 achos o gam-drin plant yn rhywiol yn Berkshire a Sir Fynwy.

Cafodd Keith Handerson, o Y Bryn, Y Fenni, ei gyhuddo o gyfres o droseddau gan gynnwys ymddygiad anweddus iawn ac ymosodiad anweddus.

Mae pob un o’r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiadau honedig yn Caversham a Sir Fynwy rhwng 1976 a 1989.

Fe wnaeth Keith Handerson ymddangos o flaen Llys Ynadon Reading ddoe a chael ei ryddhau ar fechnïaeth. Fe fydd yn mynd o flaen Llys y Goron Reading fis nesaf.

(Llun: Llys y Goron Reading. R Sones / CC BY-SA 2.0 )