‘Pobi cacennau’ a ‘llyfu’r llwy’ yw prif atgof plentyndod mwy na hanner pobol Prydain, yn ôl ymchwil newydd ryddhawyd heddiw.

Yn ôl ymchwil gan gwmni pobi cacennau Betty Crocker, pobi cacennau yw prif atgof 58% o Brydeinwyr.

Dywedodd y cwmni nad yw’n syndod bod archfarchnadoedd yn gweld cynnydd aruthrol mewn pecynnau gwneud cacennau yn ystod hanner tymor.

Efallai nad yw hi’n syndod bod y cwmni’n dweud hynny chwaith, gan mai dyna’n union yw eu cynnyrch nhw.

Ond roedd rhai atgofion melys eraill yn dod i frig y rhestr …

Fe wnaeth 31% o’r rhai a atebodd y cwestiynau ymchwil ddatgan mai ‘reidio beic’ oedd eu prif atgof a 15% yn dweud ‘gwisgo lan’.

Ymhlith yr atgofion eraill, roedd ‘gwyliau cyntaf’ (14%) ‘diwrnod cyntaf yn yr ysgol’ (13%) a derbyn ‘anrheg gan y dylwythen ddannedd’ (5%).