Fe fydd teithiau fferi newydd yn dechrau rhwng Abertawe ag Ilfracombe yng ngogledd Dyfnaint.
Mae Severn Link – y cwmni sy’n gyfrifol am y cynllun – wedi cadarnhau y bydd taith fferi gyntaf y gwasanaeth yn stemio tuag adeg y Pasg y flwyddyn nesa’.
Taith Catamarán 50 munud fydd y fordaith a bydd tocyn teithio’n costio tua £22.00. Bydd hyd at 360 o deithwyr yn gallu teithio ar un tro.
Eisoes, mae sôn wedi bod am ehangu cysylltiadau’r gwasanaeth o ogledd Dyfnaint i Orllewin Gwlad yr Haf a rhannau eraill o Dde Cymru, ond does dim wedi’i gadarnhau eto.
Bydd y gwasanaeth yn cynnig dwy daith yn ôl ac ymlaen bob dydd gyda hyd at bump yn ystod amseroedd prysuraf flwyddyn.
“Cefnogaeth lwyr”
“Mae’r cynllun wedi derbyn cefnogaeth lwyr gan fusnesau a chymunedau o ddwy ochr Môr Hafren,” meddai Cadeirydd Severn Link, Chris Marrow, wrth bapur y North Devon Journal.
Dywedodd y byddai Severn Link yn marchnata’r gwasanaeth yn genedlaethol a rhyngwladol.