Mae Llywodraeth y Swistir wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cymryd camau i rwystro pobol rhag dod i’r wlad i ladd eu hunain.

Mae mwy nag 100 o Brydeinwyr gydag afiechydon neu anableddau marwol neu gronig wedi teithio i glinig cwmni Dignitas yn ninas Zurich er mwyn lladd eu hunain.

Ond datgelodd gweinidog cyfiawnder y wlad Eveline Widmer-Schlumpf y byddai’n gorfodi canolfannau sy’n cynnig hunanladdiad i ddilyn canllawiau llymach.

Bydd rhaid i gleifion gael nodyn gan ddau ddoctor yn dweud nad oes modd gwella eu clefyd a’u bod nhw’n debygol o farw’n fuan ohono. A bydd rhaid iddyn nhw brofi
eu bod yn gallu gwneud penderfyniad cyfrifol i ladd eu hunain.

Byddai unrhyw ganolfan sy’n gwrthod yn wynebu achos llys – neu yn cael ei chau yn gyfangwbl.

‘Dim twristiaeth hunan-ladd’

“Fel gwlad does gyda ni ddim diddordeb mewn denu twristiaid sydd eisiau lladd eu hunain,” meddai Eveline Widmer-Schlumpf.

“Fydd hi ddim yn bosib yn y dyfodol i rywun groesi’r ffin a lladd ei hun ychydig ddiwrnodiau’n ddiweddarach gyda help cwmni,” meddai Eveline Widmer-Schlumpf.

Mae’r Llywodraeth yn ystyried gwahardd hunanladdiad cynorthwyol yn gyfan gwbl, ond mae pryderon y byddai hyn yn gorfodi’r busnesau ‘dan ddaear’.

‘Annynol’ – Dignitas yn ymateb

Dywedodd sylfaenydd Dignitas Ludwig Minelli bod cynigion y gweinidog cyfiawnder yn “hen ffasiwn a nawddoglyd”.

“Fe fydd hyn yn hybu hunanladdiadau unig ar draciau trên, o bontydd uchel a thrwy ffyrdd annynol eraill,” meddai.

(Llun: Adeilad Dignitas)