Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn dweud fod angen rhoi’r gwasanaethau cymdeithasol o dan ofal y Gwasanaeth Iechyd.

Fe fyddai hynny’n tynnu baich oddi ar gynghorau sir bychain, meddai Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr mewn cyfweliad arbennig gyda chylchgrawn Golwg.

Roedd yn sôn am gyngor sir ei ardal ei hun wrth ddweud eu bod yn gorfod gwneud ymrwymiad anferth i gynnal y gwasanaethau cymdeithasol, sy’n “wasanaeth cymhleth” ac yn gofyn am lawer o sgiliau ac arbenigedd.

“Os ’ych chi’n ystyried symud y gwasanaethau cymdeithasol i’r Gwasanaeth Iechyd, yna, i bob pwrpas, mae’r Cynulliad yn cymryd y baich yna oddi ar lywodraeth leol,” meddai.

Yn yr un cyfweliad, roedd Huw Lewis yn pwysleisio bod digon o arian ar gael – er gwaetha’r dirwasgiad – i weithredu mewn meysydd allweddol, fel dileu tlodi ymhlith plant.


Y cyfweliad yn llawn ac esboniad o’r drefn bleidleisio – yn Golwg yr wythnos yma