Fe gafodd un o brifysgolion mwya’ newydd Cymru ei chyhuddo o ddiswyddo cynrychiolydd undeb oherwydd ei fod wedi datgelu tystiolaeth o fwlio.
Yn awr, mae un o’r undebau ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, yn cynnal pleidlais ymhlith ei aelodau i ystyried streic.
“Mae diswyddo Hamish Murphy yn ymosodiad arno fel undebwr llafur ac fel llais y gweithwyr academaidd ym Mhrifysgol Glyndŵr,” meddai Margaret Phelan, Prif Swyddog undeb UCU yng Nghymru wrth gylchgrawn Golwg.
Mae’r undeb hefyd yn honni bod y corff cymodi ACAS yn dweud bod tystiolaeth o fwlio ac o aflonyddu ar staff mewn rhannau o’r Brifysgol.
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg