Fe fydd Jonathan Thomas yn cael gwybod heno r a fydd ar gael i chwarae dros Gymru yng ngemau rhyngwladol yr hydref.
Mae chwaraewr y Gweilch wedi cael ei alw o flaen y panel disgyblu heddiw ar honiad ei fod wedi defnyddio’i ddyrnau yn y gêm yn erbyn Caerdydd ddydd Sul diwethaf.
Roedd lluniau teledu yn dangos yn glir ei fod wedi chwifio ei fraich, ond doedd hi ddim mor amlwg a oedd wedi taro neb.
Pe bai Thomas yn cael ei wahardd, fe allai fethu pob un o gemau’r hydref, ac fe fyddai’n ergyd arall i’r hyfforddwr Warren Gatland sydd eisoes wedi colli sawl chwaraewr allweddol i anafiadau.
Y clo Ian Gough fyddai’r ffefryn i gymryd lle Thomas yn y garfan pe bai’n cael ei wahardd.