Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, yn dweud bod y Cymro, Aaron Ramsey, yn barod i herio am le cyson yn nhîm cyntaf y clwb.

Mae disgwyl i Ramsey fod yn rhan o dîm ifanc y Gunners i wynebu Lerpwl yn y Cwpan Carling heno.

Fe fydd y chwaraewr canol cae yn 19 oed ddydd San Steffan, ac mae Wenger yn credu bod gyrfa’r Cymro yn datblygu’n dda ers ei arwyddo o Gaerdydd am £5m yn 2008.

“Gan gofio mai dim ond 18 oed yw e, mae Ramsey wedi datblygu’n dda iawn,” meddai’r Ffrancwr. “Mae wedi gwella llawer o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf, pan oedd yn dal i edrych ychydig fel chwaraewr ieuenctid.

‘Agos iawn’

“Mae’n gweithio’n galed i chwarae yn y tîm cyntaf – ac mae gan y chwaraewyr canol cae eraill lawer o waith i gadw Ramsey o’r tîm; mae e’n agos iawn.

“Roeddwn wedi rhoi targed iddo chwarae rhwng 15 a 20 gêm y tymor hwn, ac rwy’n credu y bydd e’n cyflawni hynny.”

Mae Aaron Ramsey wedi gwneud deg ymddangosiad i dîm cyntaf Arsenal y tymor hwn, gyda naw o’r rheiny oddi ar y fainc.