Mae cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale, wedi dweud ei fod eisiau i rywun cyfoethog ddod i brynu’r clwb.
“Mae angen rhywun arall i gymryd y clwb i’r lefel nesaf ,” meddai’r cadeirydd. “Fe ddylai Caerdydd fod yn nwylo rhywun sydd â llawer o arian.”
Yn wreiddiol, dim ond am dri mis yr oedd Ridsdale wedi ymuno â Chaerdydd yn 2005 ond, ers hynny, mae wedi ymdrechu i leihau dyled fawr Caerdydd, sydd wedi golygu gwerthu rhai o’r chwaraewyr gorau.
Chwilio
Dros yr haf fe wnaeth y cadeirydd dreulio cyfnod yn y Dwyrain Pell yn ceisio ennyn diddordeb a buddsoddiad gan rai o bobol fwyaf cyfoethog y rhanbarth.
Mae yna drafodaethau wedi cael eu cynnal hefyd gyda dyn busnes o Falaysia, Dato Tien Ghee, ynglŷn â buddsoddi yn y clwb. Ond does dim penderfyniad eto.
“Rwy’n credu ein bod wedi gwneud job eithaf da, ond dydw i ddim yn esgus ein bod wedi gwneud dim byd mwy na chael y clwb i ble mae e’ nawr,” meddai Peter Ridsdale.
Mae cadeirydd yr Adar Glas wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd dyled y stadiwm newydd wedi cael ei thalu o fewn 12 mis.