Tyddyn bach gwyngalchog ar fryn, gwraig y tŷ yn ei brat yn chwipio’r llwch oddi ar gwilt lliwgar sy’n hongian ar lein yr ardd.

Dyna ddelwedd amlyca’ gwaith celf y Ffrances Valériane Leblond sy’n byw yn Llangwyryfon ger Aberystwyth.

“Cymru sy’n fy ysbrydoli,” meddai’r artist 24 oed, sy’n wreiddiol o Angers ger afon Loire.

“Dw i’n hoffi’r tai fan hyn, gyda’r gwyngalch, ac rwy’n hoffi’r bryniau.”

“Mae pobol yn gweld bod yna rywbeth lleol am fy narluniau. Yn y cefn gwlad, mae fel yr hen fywyd, ond falle tamed bach llai yn Ffrainc. Does dim llawer o wartheg fel sydd fan hyn. Mae gan bobol erddi, a thractorau yma!”

Cartrefol

Mae ei gwaith yn gwerthu’n dda yn Sir Aberteifi, a thu hwnt.

“Dw i’n meddwl bod fy ngwaith yn siarad â phobol fan hyn,” meddai. “Rwy’n synnu, mae llawer o bobol yn prynu fy lluniau.”

Ac mae hi’n teimlo llawer mwy cartrefol yn nyfnderoedd y wlad nag yn y dref.

“Pan rwy’n mynd i Aberystwyth, sa’ i’n teimlo yn fy nghymuned i,” meddai Valériane Leblond, sydd hefyd yn gynorthwyydd Ffrangeg yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, “ond rwy’n cwrdd â phobol yn Llangwyryfon. Rwy’n teimlo’n fwy o ran o’r gymdeithas yng nghefn gwlad, ac yn nabod pobol.”

Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Hydref 22