Yn ei waith diweddara’, Calon, mae’r dawnsiwr Cai Tomos yn mynd at wraidd y pethau a’r bobol sy’n bwysig iddo.

Mae’n rhaid i bob darn o waith dawns gan Cai Tomos fod yn seiliedig ar brofiadau personol ac yn y perfformiad diweddara’, y galon sy’n ganolog.

“Dw i ddim yn gwybod sut i wneud dim byd arall,” meddai’r dawnsiwr o Ddolgellau.

“Mae lot o artistiaid yn meddwl ei fod o’n gorfod dod o brofiad personol. Os allwch chi wneud y profiad yna yn brofiad y mae pobol eraill yn gallu uniaethu efo fo, dyna sy’n bwysig.”

Ei brofiad o ddiodde’ iselder oedd sail ei waith yn 2005, Breakdown, a wnaeth gyda’r dawnsiwr Marc Rees, ar ôl treulio cyfnod mewn ysbytai yng Nghaerdydd a Bangor.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mewn perfformiad ar ei ben ei hun, Gwyrth,
roedd yn cyfleu’r syniad o dröedigaeth – ar sail ei brofiad yn gwella, er nad oedd wedi gweld “yr angylion yn dod i lawr na dim!”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 22