Mae Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, wedi dweud bod yr Holocost yn cael ei ddefnyddio fel “esgus” i ladd Palesteiniaid.
Dywedodd bod Palesteiniaid yn dioddef yn annheg oherwydd beth ddigwyddodd i’r Iddewon yn y Holocost, gan nad oedd ganddyn nhw rôl yn y rhyfel.
Roedd yr Arlywydd yn siarad gydag asiantaeth newyddion yr Associated Press cyn ei anerchiad i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig heddiw, 23 Medi.
‘Dan warchae’
Cyhuddodd y wasg o “ystumio fy marn ar y mater” a dweud nad yw’n “dadlau dros faterion hanesyddol” ond am “wella bywydau pobol sy’n bod heddiw”.
“Os yw’r Holocost yn rhywbeth ddigwyddodd yn Ewrop, wrth ddwylo llywodraethau Ewrop, pam ceisio gwneud yn iawn am y peth mewn gwledydd a thiriogaethau eraill?,” gofynnodd.
“Ai pobol Palesteina ddylai fod yn gwneud yn iawn am beth ddigwyddodd drwy gael eu disodli, a pham?
“Rydym ni’n dadlau nad oedd gan bobol Palesteina unrhyw rôl yn yr Ail Ryfel Byd, ond wedyn fe gafon nhw eu rhoi yn y sefyllfa o wneud yn iawn am erchyllterau pobol eraill.
“Ar ddiwedd y dydd maen nhw’n ddynol hefyd, maen nhw’n hoffi byw yn eu gwlad a’u cartref eu hunain, ond maen nhw dan warchae.
“A pham felly yn union? Ydan ni wedi gofyn y cwestiwn yn iawn? Am drosedd nad oedd ganddyn nhw ran ynddo.”
‘Angen trafod’
Aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd o “yno 60 mlynedd yn ôl, ond rydym ni yma nawr, a beth ydan ni’n ei weld yw Palesteiniaid yn cael eu lladd.
“Mae empathi am hanes yn angenrheidiol ond mae yna amgueddfeydd i hyrwyddo’r empathi hwnnw.
“Ond heddiw mae pobol yn cael eu lladd a beth sy’n bwysig yw atal y lladd nawr. Os yw’r Holocost yn cael ei ddefnyddio fel esgus i ladd Palesteiniaid, yna mae’n anochel bod angen trafod yr Holocost.”