Mae Cyngor wedi penderfynu newid eu henw Saesneg am bwdin eirin – Spotted Richard – yn ôl i’r enw gwreiddiol, Spotted Dick.
Yn gynharach y mis yma penderfynodd Cyngor Sir y Fflint i newid enw’r pwdin sydd yn cael ei werthu yn eu pencadlys yn y Wyddgrug, Gogledd Cymru.
Dywedodd y cyngor bod staff y cantîn yn gorfod ymdopi gyda “sylwadau plentynnaidd” gan un o’r cwsmeriaid.
Ond mae’n debyg bod rhai aelodau blin o’r cyhoedd wedi ysgrifennu llythyrau yn gofyn i’r cyngor newid yr enw yn ôl.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Colin Everett, bod y penderfyniad wedi arwain at “rywfaint o ddirmyg, ac yn anffodus nifer o lythyrau sarhaus o ledled y wlad.
“Bydd ‘Spotted Dick’ yn ôl ar y fwydlen dan ei enw gwreiddiol.”
Mae ‘spotted’ yn cyfeirio at y cyrains, sy’n edrych fel smotiau, ac mae ‘Dick’ yn deillio o’r gair ‘dough’.