Sgôr o 89 heb ei guro gan y capten Jamie Dalrymple sydd wedi helpu Morgannwg i sefyllfa gadarn ar ddechrau diwrnod ola’ eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Essex.

Fe lwyddodd sawl batiwr arall i gyfrannu’n ddeche – gan gynnwys Rees, Wallace a Bragg – wrth i Forgannwg gyrraedd 279 am 9. Mae hynny’n eu gosod 302 ar y blaen mewn gêm a allai gynnal eu gobeithion am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Cyn hynny, y troellwr, Dean Cosker, oedd yr arwr yn clirio wicedi ola’ Essex heb ildio’r un rhediad. Fe orffennodd gyda’i ffigurau gorau erioed i Forgannwg o 6 am 91.

Y penderfyniad mawr i Dalrymple fydd parhau i fatio neu beidio, ac am ba hyd.