Mae gweinidog cabinet wedi tynnu cymhariaeth rhwng grwpiau eithafol adain dde heddiw a ffasgwyr yr 1930au.

Er nad oedd yn credu bod y sefyllfa mor beryglus yn awr, fe bwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, John Denham, fod angen cymryd y sefyllfa o ddifri.

Daeth ei sylwadau wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i geisio atal eithafwyr rhag gallu “cymryd mantais” o’r dosbarth gwaith gwyn a chreu gwrthdaro.

Fe rybuddiodd am wrthdystiadau’r ‘English Defence League’ sydd wedi arwain at drais yn ystod y misoedd diwetha’ – er mai grŵp bach oedden nhw, roedd hi’n amlwg eu bod yn ceisio sbarduno ymateb a “chreu trais”, meddai.

Ffasgwyr

Wrth siarad â phapur newydd y Guardian, fe gymharodd weithredodd y Gynghrair gyda “Brwydr Cable Street” yn 1936 pan fu gwrthdaro rhwng ffasgwyr Oswald Mosley a’u gwrthwynebwyr.

“Ceisio pryfocio ymateb yn y gobaith o achosi trais ac anhrefn – mae’r arfer wedi’i hen sefydlu ymhlith grwpiau eithafol adain dde,” meddai John Denham.

Mae angen “strategaeth ehangach” gan lywodraeth, meddai, i geisio datrys sefyllfaoedd y gall pobol hiliol gymryd mantais ohonyn nhw.

“Mae’r hyn yr ydyn ni’n wynebu ar hyn o bryd yn fychan, ond mae’n rhaid i ni gymryd y sefyllfa o ddifrif. Mae yna bobol sy’n ceisio pryfocio gan greu mwy nag ymateb.”