Mae dyn arfog yn nhalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau wedi saethu ymgyrchydd gwrth-erthylu adnabyddus y tu allan i ysgol uwchradd.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd Harlan James Drake, 33 oed, yn flin am fod y protestiwr yn dangos arwydd gyda darluniau graffig o ffoetws arno o flaen y myfyrwyr.

Yn union wedyn, mae’n ymddangos fod y dyn wedi gyrru saith milltir i lawr ffordd wledig cyn lladd perchennog busnes a oedd wedi ei ddigio.

Mae’r heddlu’n awgrymu y byddai’r dyn wedi lladd am y trydydd tro pe baen nhw heb ei ddal. Mae James Drake bellach wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Yn ôl Prif Erlynydd Cynorthwyol y sir, doedd dim un digwyddiad wedi sbarduno’r digwyddiad ond roedd presenoldeb y protestiwr wedi ffyrnigo Drake.