Roedd yna dair wiced yr un i ddau droellwr Morgannwg wrth i’r gêm bencampwriaeth yn erbyn Essex bendilio un ffordd a’r llall.
Erbyn y diwedd, roedd y Saeson ar 277 am 7 wrth ateb sgôr Morgannwg o 311 yn y batiad cynta’. Mae’r ddau dîm angen buddugoliaeth i gynnal eu gobaith o godi i’r Adran Gyntaf.
Fe ddaeth Robert Croft yn agos at wiced sawl tro cyn cael cyfnod rhyfeddol o dair wiced am saith rhediad o fewn 14 pelen. Aeth hynny ag Essex o 98 heb golled i 107 am 3.
Ar ôl hynny, y troellwr arall, Dean Cosker, a wnaeth y difrod gydag un wiced hefyd i Jim Allenby.
Roedd yna ddau ddigwyddiad pwysig ar ddechrau’r chwarae – y batiwr, Gareth Rees, yn cael ei gap i Forgannwg ar ôl storio cant yn y batiad cynta’ … a’r newydd y bydd dwy gêm brawf 20/20 rhwng Lloegr a Phacistan yn Stadiwm Swalec y flwyddyn nesa’.
Llun: Robert Croft