Mae dechrau gwael y Gleision i’r tymor rygbi wedi parhau wrth iddyn nhw golli o 24-13 i bencampwyr Cynghrair Magners ym Munster.

Er iddyn nhw gael cais gan y chwaraewr rheng ôl, Xavier Rush, wnaeth tîm y brifddinas ddim dod yn agos o ddifri at ennill y gêm.

Ciciau’r cefnwr, Ben Blair, oedd yr unig bwyntiau eraill wrth i’r Gwyddelod reoli’r ail hanner ar ôl i’r Gleision gau’r bwlch i 16-13 ychydig funudau wedi’r hanner.

Rhediad arall gan Xavier Rush oedd cyfle gorau’r Gleision tua diwedd y gêm – yn ôl yr adroddiad ar wefan y clwb gan Gwydion Griffiths, roedd hwn yn berfformiad gwell ond fod ambell agwedd yn siom .

Roedd hyfforddwr Caerdydd, Dai Young, wedi mynnu fod angen dechrau gwell i’r tymor er mwyn torri arfer y Gleision o ddechrau’n araf.