Neges Gweinidog Addysg Cymru i fyfyrwyr Cymru, wedi derbyn eu canlyniadau lefel A neu TGAU, yw sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg – naill ai’n academaidd neu’n alwedigaethol.

Er bod Llywodraeth Prydain dan arweinyddiaeth Tony Blair wedi cyhoeddi nod o addysg prifysgol i 50% o’r boblogaeth, mae Jane Hutt yn mynnu bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu yn ôl anghenion Cymru.

“Y neges dw i wedi bod yn rhoi, ac ry’n ni wedi bod yn rhoi trwy Gymru yn ein Uwch Gynadleddau, yw Arhoswch Mewn Addysg. Arhoswch mewn addysg ac ewch ar ôl cyfleoedd hyfforddi,” meddai Jane Hutt wrth Golwg.

“Yn yr hinsawdd economaidd yma mae’r dystiolaeth yn dangos mai pobol ifanc heb unrhyw gymwysterau fydd yn cael eu bwrw galetaf yng nghyd-destun y farchnad swyddi.”

Yn ôl Jane Hutt mae llwyddiant Bagloriaeth Cymru yn esiampl i eraill. Mae’r cwrs yn cyfuno sgiliau datblygiad personol gyda chymwysterau mwy traddodiadol fel safon Uwch, NVQ a TGAU i greu un dyfarniad ehangach.

“Dyna le dw i’n meddwl mae’r Fagloriaeth Gymreig yn batrwm i eraill ddilyn ac mae cyflogwyr yn croesawu fwyfwy ac wrth gwrs brifysgolion,” meddai gan bwysleisio’r angen i gymysgu’r academaidd gyda’r galwedigaethol.

“Mae’r diploma o’r fagloriaeth uwch yn rhoi mantais i ymgeiswyr Cymru pan mae prifysgolion yn ystyried pwy i’w derbyn.”

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Awst 27