Mae sylwadau’r digrifwr a’r actor Griff Rhys Jones mewn rhaglen deledu wedi cythruddo aelodau rhai o glybiau pysgota Cymru.

Mae’r gyfres River Journeys ar BBC 1 yn dilyn y gŵr a anwyd yng Nghaerdydd ar daith ar hyd rhai o afonydd gwledydd Prydain.

Mae sylwadau Griff Rhys Jones wedi’u hadrodd mewn papurau, ar raglenni Radio 4 a Countryfile y BBC lle mae’n dweud bod angen “aflonyddu mwy ar bysgotwyr” sydd â gormod o reolaeth dros yr afonydd, meddai.

Ond mae Huw Hughes, sy’n gyn-plismon ac yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Bysgota Seiont, Llyfni a Gwyrfai yng Ngwynedd yn ei gyhuddo o “annog anrhefn!”

Mae hefyd yn cyfeirio ato fel “twmffat” a “dyn gwirion.”

Mae’r anghydfod rhwng aelodau Gymdeithas Bysgota a chanŵ-wyr ar Afon Seiont yn mynd nôl i 1986 pan fu gwrthdaro rhyngddyn nhw ar bont Crawia ger Llanrug.

Fe geisiodd pobol leol rwystro cannoedd o ganŵ-wyr fynd lawr yr afon a chafodd y Gymdeithas orchymyn llys i’w rhwystro rhag tresmasu yno eto.

Mae Cymdeithas Bysgota Afon Teifi hefyd wedi “profi gwrthdaro uniongyrchol rhwng canŵ-wyr a physgotwyr,” a bu’n rhaid galw’r heddlu.

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Awst 27