Roedd gwylwyr y BBC wedi drysu nos Sadwrn, wedi i raglen bêl-droed newid yn sydyn i olygfa o ddynes yn eistedd ar y tŷ bach.
Roedd rhaglen BBC1, y Football League Show, yn dangos gêm rhwng Torquay a Chesterfield.
Am tua 1am, newidiodd y llun yn sydyn, a dangos dynes flond yn eistedd ar y tŷ bach, yn dal ffôn symudol.
Roedd yr olygfa yn rhan o’r ffilm Blue Crush, a oedd yn cael ei ddarlledu ar y pryd ar sianel ITV.
Mae’r olygfa yn dangos yr actores Kate Bosworth ar y tŷ bach mewn ciwbicl, yn gwrando ar ferched eraill yn siarad.
“Trafferthion technegol” oedd yn gyfrifol am y ddamwain yn ôl y BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth fod y rhaglen wedi cael ei heffeithio am 37 eiliad, ac ychwanegodd nad oedd y gwylwyr wedi colli unrhyw goliau.