Mae rhieni plentyn bach a fu farw ar ôl llyncu methadon yn cael eu dedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl cyfaddef eu cyfrifoldeb am ei farwolaeth.

Bu farw Dylan Thomas Hughes, dwy oed o Nant-y-moel, ger Pen-y-bont, ym mis Mai y llynedd ar ôl llyncu’r cyffur.

Mis diwethaf fe blediodd ei rieni, Paul Hughes, 31 oed, a Krystal Jones, 26 oed, yn euog i achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae Paul Hughes hefyd wedi pledio’n euog i gyflenwi methandon ac i fod â chanabis yn ei feddiant. Yn wreiddiol roedd y cwpl wedi eu cyhuddo o ddynladdiad y plentyn ond fe wnaethon nhw wadu hynny.

Dywedodd yr erlynydd Robin Spencer bod y cwpl yn derbyn cyfrifoldeb am roi’r cyffur, sy’n cael ei ddefnyddio yn lle heroin, o fewn cyrraedd y plentyn.

Ers yr achos, mae Paul Hughes wedi’i gadw yn y ddalfa, tra bod Krystal Jones wedi bod yn rhydd ar fechnïaeth ac wedi gallu ymweld â bedd ei mab am y tro cyntaf ers yr angladd.