Mae disgwyl y bydd Llafur yn cael cweir yn is-etholiad Norwich North, pan ddaw’r canlyniadau tua amser cinio.

Yn ôl pôl piniwn gan bapur lleol, fe allen nhw hyd yn oed lithro i’r trydydd lle y tu ôl i’r blaid genedlaetholgar, UKIP.

Eisoes, mae arwyddion fod lefel pleidleisio yn gymharol isel ac fe allai hynny arwain at ganlyniadau annisgwyl.

Fe gafodd yr isetholiad ei al war ôl i’r AS, Ian Gibson, ymddiswyddo ynghanol sgandal lwfansau Aelodau Seneddol. Roedd y Blaid Lafur wedi ei atal rhag sefyll eto yn eu henw nhw.

Er ei fod wedi hawlio £80,000 ar ail gartref ac wedyn wedi gwerthu’r tŷ am bris rhad i’w ferch, roedd yna gydymdeimlad mawr yn lleol gydag Ian Gibson a theimlad ei fod wedi cael cam.

Barn sylwebyddion yw fod angen i’r Ceidwadwyr a David Cameron gael buddugoliaeth dda os ydyn nhw am wneud argraff. Roedd y mwyafrif Llafur bron â bod yn 5,500.