Dyw rhaglen i leihau troseddau cyllyll ymhlith pobol ifanc ddim wedi llwyddo i ostwng nifer y marwolaethau.

Roedd Heddlu De Cymru ymhlith deg o luoedd a fu’n arbrofi gyda’r rhaglen y llynedd.

Roedd yna leihad o 17% mewn trais yn gyda chyllyll yn erbyn pobol dan 20 oed ond doedd dim newid yn nifer y bobol a laddwyd.

Roedd 23 o bobol dan 20 oed wedi marw yn y cyfnod rhwng Gorffennaf 2008 a Mawrth 2009 – yr un rhif ag yn y flwyddyn gynt.

Cafodd 103 o bobl 20 oed a hŷn eu lladd yn ystod cyfnod y cynllun, o gymharu â 96 tros yr un amser cyn hynny.

Mae’r heddlu wedi dweud y gallai gymryd cenhedlaethau i newid agweddau pobol tuag at droseddau cyllyll.

Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu £5m ychwanegol i barhau gyda’r cynllun am gyfnod arall. Bydd yr arian ar gael i’r deg rhanbarth heddlu gwreiddiol yn ogystal â chwech ychwanegol.