Union 40 mlynedd yn ôl, ar Orffennaf yr 20fed 1969, ynganodd Neil Armstrong y geiriau enwog, “Un cam bach i ddyn, llam anferth i ddynoliaeth” wrth iddo gerdded ar y lleuad – y dyn cyntaf erioed i wneud hynny.

Lawnsiodd y llong ofod Apollo 11 o Ganolfan Ofod Kennedy yn Florida ar Orffennaf yr 16, a phedwar diwrnod yn ddiweddarch cerddodd Neil Armstrong a Buzz Aldrin ar wyneb y lleuad.

Roedd hyn yn cyflawn proffwydoliaeth yr Arlywydd Kennedy yn 1961 pan heriodd yr Unol Daleithiau i roi dyn ar y lleuad cyn diwed dy ddegawd – yr unig ffordd iddyn nhw guro ‘r Undeb Sofieitaidd yn y ras i’r gofod.

Hanner biliwn o bool

Bu mwy na hanner biliwn o bobol ledled y byd (mwy na chweched ran o’r holl boblogaeth) yn gwylio Armstrong ac Aldrin yn teithio o’r brif long ofod ‘Columbia’ i’r lleuad mewn llong ofod lai, ‘Yr Eagle’, cyn i Armstrong gerdded y camau cyntaf ar y lleuad.

Ond roedd yna drydydd dyn hefyd – Michael Collins oedd y dyn a arhosodd ar y llong ofod … y dyn mwya’ unig erioed oedd ei ddisgrifiad o hynny.

Er i griw yr ‘Apollo 11’ ddechrau pennod newydd, arloesol yn hanes teithio yn y gofod, cael a chael oedd hi i’r daith fod yn llwyddiant. Wrth i’r ‘Eagle’ baratoi ar gyfer glanio, dechreuodd y larymau ganu, gan ddangos fod problem gyda’r llong ofod, ac roedd y ffaith mai dim ond gwerth tua 30 eiliad o danwydd oedd ar ôl ar y llong yn achos panig yn y pencadlys yn America.

Ac yn ôl

Gosododd Armstrong ac Aldrin faner yr Unol Daleithiau ar y lleuad, er cof am ofodwyr ‘Apollo 1’ a fu farw yn 1967 wedi tân wrth iddi ymarfer ar gyfer teithio i’r lleuad.

Yna dadorchuddiwyd plac gyda llonfnod yr Arlywydd Nixon arno, tynnwyd lluniau a chasglwyd samplau o bridd a cherrig, cyn dychwelyd yn ôl i’r ‘Columbia’ wedi tua dwy awr a hanner ar y lleuad.

Dim ond pan laniodd Apollo 11 yn y Môr Tawel ar Orffennaf 24 y cwbwlhawyd sialens Kennedy yn iawn – yr her oedd mynd ag Americanwyr i’r lleuad, a dod â nhw’n ôl yn saff.